Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Hydref 2022
Amser:
13.32 -
15.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13002
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3
2.1 SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)269 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol
4.1 SL(6)268 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
5.1 SL(6)260 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Rheoliadau hyn wedi’u tynnu’n ôl gan Lywodraeth Cymru.
5.2 SL(6)238 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef.
6 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(6)012 - Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
6.2 WS-30C(6)013 – Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Gohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi: Colli Effaith: pam mae system asesiad effaith y Llywodraeth yn gwneud cam â’r Senedd a’r cyhoedd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor ar 7 Tachwedd.
Cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2022.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
11 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 1 a Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Tai Cymdeithasol
Trafododd y Pwyllgor Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) a chytunodd i drafod adroddiad drafft ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi pryderon ynghylch y Memorandwm.
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, a chytunodd arno.
14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a chytunodd arno.
15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a chytunodd i drafod a chytuno ar ddrafft diwygiedig y tu allan i gyfarfodydd y Pwyllgor.
16 Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Tachwedd 2022.
17 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod yr ohebiaeth
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr ohebiaeth a ddaeth i law ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
18 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Trafododd y Pwyllgor femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Prisiau Ynni a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion.
19 Cysylltiadau rhynglywodraethol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried llythyr drafft at Lywodraeth y DU mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol.